Rhelowr Newydd/ New Manager
Mae’r Pwyllgor rheoli yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gallu penodi Rheolwr Gweithrediadau newydd, a fydd yn dechrau ei rôl newydd yn ein Clwb yn fuan iawn. Mae Mrs Rhian Wynne Jones yn wraig lleol o Rho Isaf, mae hi wedi bod yn gweithio yn y sector Ariannol ers blynyddoedd lawer, gyda Banc Y NatWest yn fwyaf diweddar, ac yn flaenorol gyda y Cheltenham a Gloucester. Yn aelod o Sefydliad Bancio Siartredig, mae Rhian yn edrych ymlaen am ei swydd newydd ar sialans o’i blaen. Mae hi’n dod â chyfoeth o sgiliau rheoli cyfrifyddu ac ariannol gyda hi, a llawer o nodweddion o ranmarchnata’n lleol, ac ar raddfa genedlaethol. Mae’r Pwyllgor Rheoli yn teimlo ein bod yn ffodus iawn i allu penodi person gyda’r sgiliau mae ein Clwb angen, ac yr ydym yn siŵr y byddwch chi i gyd yn rhoi’r croeso
cynnes a’r cwrteisi mae hi’n haeddu.